Gwasanaethau Cefnogi Iechyd Meddwl
Cyfeiriadur o’r gwasanaethau iechyd meddwl a gomisiynir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gynnig cefnogaeth yn y gymuned ar draws bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, RCT a Merthyr Tudful
Parth Hunan Gymorth
Ardal hylaw o adnoddau defnyddiol y gellir eu defnyddio i helpu i gefnogi eich iechyd emosiynol a’ch llesiant
Ein Straeon
Casgliad o straeon gan bobl go iawn sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn eu cymuned i helpu gyda’u hiechyd meddwl.
Chwilio am gymorth iechyd meddwl ar eich pwys chi
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Newydd
Mae BIPCTM yn comisiynu nifer o wasanaethau iechyd meddwl o’r trydydd sector ar draws bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar hyn o bryd. Er mwyn helpu i barhau i wella darpariaeth ar draws Cwm Taf Morgannwg, bydd y bwrdd iechyd yn aml yn buddsoddi mewn rhaglenni peilot a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Kooth
Mae Kooth yn wasanaeth iechyd meddwl ar lein hawdd cael ato sy’n cefnogi plant a phobl ifanc. Mae Kooth yn darparu lle rhad ac am ddim, diogel a dienw i bobl ifanc ganfod cefnogaeth a chwnsela ar lein. Mae’r safle’n addas i bobl rhwng 11 a 18 oed a all fod angen cyngor a chyfeirio, helpu neu gefnogaeth mewn argyfwng. Mae ganddo ystod o adnoddau ac apiau i chi fynd atynt gan gynnwys cylchgronau, fforymau, canolfannau gweithgaredd, negeseuo a chwnsela byw.
Ein Straeon Diweddaraf
Dyma straeon go iawn am sut mae gwasanaethau iechyd meddwl gwirfoddol Cwm Taf Morgannwg wedi helpu i wneud gwahaniaeth i’r bobl sydd wedi cael mynediad i gefnogaeth yn eu cymuned.
Defnyddio ffôn clyfar neu dabled?
Lawrlwythwch ein ap
Beth am lawrlwytho ein ap i gael mynediad cyflym i lawer o adnoddau defnyddiol a manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau lleol i’ch helpu i reoli eich iechyd meddwl a’ch llesiant ar flaenau eich bysedd!