Gwasanaethau Lleol

Mae sawl grŵp cymunedol a sefydliad gwirfoddol iechyd meddwl a llesiant sy’n gweithio mewn cymunedau lleol. Maen nhw’n darparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl cymedrol a phroblemau llesiant gyda’r nod o atal yr angen i gael mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl mwy arbenigol.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) gysylltiad cryf gyda nifer o wasanaethau cymunedol lleol ac mae’n talu rhai sefydliadau lleol i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan.

Mae’r sefydliadau gwirfoddol a restrir isod yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM). Maen nhw’n cynnig ystod eang ac amrywiol o wasanaethau i helpu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Cruse Bereavement Care Image

CRUSE

Cruse Bereavement Care yw’r brif elusen genedlaethol ar gyfer pobl mewn profedigaeth gan gynnig cefnogaeth dros y ffôn, e-bost ac ar y wefan. Mae cefnogaeth ar gael ledled bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mind Cym Taf Morgannwg

Mind CTM

Mind CTM yw’r elusen Mind lleol sy’n darparu gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl a thai ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

eye to eye wales

Eye-to-Eye

Wedi’i leoli yn RCT, mae Eye to Eye yn cynnig cwnsela rhad ac am ddim cyfrinachol i bobl ifanc rhwng 10 a 25 oed mewn ysgolion, yn y gymuned ac ar lein.

Hafal

Hafal

Bydd Hafal yn helpu pobl â salwch meddwl difrifol a’u teuluoedd i weithio i gyfeiriad adferiad. Seilir eu holl wasanaethau gan Raglen Adfer Hafal sy’n grymuso cleientiaid a theuluoedd i gymryd rheolaeth dros eu bywydau a chael adferiad. Mae Hafal yn gweithredu sawl prosiect gwahanol i helpu cefnogi iechyd meddwl a llesiant.

New Horizons Mental Health

New Horizons

Mae Iechyd Meddwl New Horizons yn darparu gwasanaethau amrywiol i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yng nghymunedau Cwm Taf Morgannwg. Drwy eu Coleg Adferiad maen nhw’n darparu cyrsiau i’ch arfogi â’r wybodaeth a’r offer i reoli eich iechyd meddwl yn dda. Hefyd ceir sawl grŵp cymdeithasol a chefnogaeth gyfoed o grefftau i ysgrifennu creadigol i gerdded. Mae adferiad yn ymwneud â thyfu ac ailsefydlu hunaniaeth. Mae’n cynnwys lleihau ynysrwydd, herio stigma, ac wynebu’r anawsterau y gall iechyd meddwl eu cyflwyno.

Platfform

Platfform

Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o ymdeimlad o gyswllt, perchnogaeth a llesiant yn y mannau ble maen nhw’n byw. Mae Platfform yn cynnal prosiectau ar draws bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar hyn o bryd.

Citizens Advice RCT

Cyngor ar Bopeth RCT

Mae Cyngor ar Bopeth RCT yn elusen annibynnol ac yn rhan o rwydwaith CAB ar draws Cymru a Lloegr.
Maen nhw’n darparu cyngor rhad ac am ddim, cyfrinachol a diduedd yn RCT ar sawl maes

mental health matters wales

MHMWales

Mae MHMWales yn elusen iechyd meddwl a leolir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd MHMWales yn cynnal sawl Hwb Lleisant a maen nhw’n gweithredu nifer o brosiectau gwahanol ledled bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

valleys steps

Valleys Steps

Mae Valleys Steps yn darparu ystod o weithdai a chyrsiau meddwlgarwch ac ymwybyddiaeth straen sy’n agored i’r cyhoedd. Nod eu gwasanaethau yw helpu pobl i ofalu amdanynt eu hunain, gan ddarparu pecyn offer i reoli’u hiechyd meddwl a’u llesiant yn well. Cynlluniwyd eu cyrsiau i helpu pobl oresgyn straen, gorbryder a hwyliau isel gyda thros 16,000 o bobl yn mynychu rhaglenni ar lein ac yn y gymuned.

Llinellau Cymorth

999 (gwasanaethau brys)

111 (gwasanaethau iechyd meddwl y GIG

Samariaid: 116 123

CALL 24/7: 0800 132 737

Mind: 0300 123 3393

Young Minds: 0808 802 5544

Papyrus: 0800 068 4141

CALM: 0800 58 58 58

SANE: 0300 304 7000

Dan 24/7: 0808 808 2234

Rethink: 0300 5000 927