Roedd gan Katy hanes o hunan-niweidio, ond sylwodd bod ei hunan-niweidio’n dechrau mynd allan o reolaeth pan oedd hi’n dechrau stryglo gyda phwysau yn ei bywyd gartref ac yn y gwaith. Un diwrnod, gwelodd daflen ar gyfer y grŵp hunan-niweidio SHARE, a gynhelir gan Mental Health Matters Cymru, a phenderfynodd fod angen iddi wneud rhywbeth i gael ei bywyd yn ôl ar y llwybr cywir.
“Doeddwn i erioed wedi mynd i grŵp cefnogi o’r blaen, felly do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Ro’n i dros y lle i gyd pan eisteddais i lawr, ond ces fy nghyfarch a dywedwyd wrtha i fod dim rhaid i fi siarad os nad oeddwn i eisiau, a bod dim pwysau i ymuno. Ro’n i’n teimlo croeso mawr er bod pawb arall yn y grŵp yn nabod ei gilydd yn barod.”
I ddechrau, roedd Katy’n teimlo embaras ac yn hunan-ymwybodol iawn, ond yn y pen draw gyda chefnogaeth gan y grŵp, dechreuodd ymlacio a chyfrannu’n llawn i’r sesiynau. Drwy fynychu SHARE, nid yn unig dysgodd hi strategaethau ymdopi, ond roedd hi wedi gallu archwilio gweithgareddau newydd a chael cefnogaeth gan ei chyfoedion.
“Pan ddechreuais siarad am fy hunan-niweidio, ro’n i’n teimlo embaras mawr, ond roedd yn debyg i dynnu’r gorchudd yn ôl, Do’n i erioed wedi siarad am hyn o’r blaen. Fy nghyfrinach i oedd hi.
Roedd meddwl am roi’r gorau iddi’n codi ofn, ond dydyn nhw ddim yn eich gorfodi i stopio yn SHARE. Maen nhw eisiau i chi leihau, a cheisio gwneud rhywbeth arall yn lle. Mae rhestr o dechnegau tynnu sylw a phethau amgen i’w gwneud, ond maen nhw’n dweud wrthych na fyddan nhw o bosib yn gweithio i chi, a bod angen i chi ddod o hyd i rywbeth sydd yn gweithio i chi. Beth weithiodd i fi yn y tymor byr oedd defnyddio bandiau elastig i snapio yn erbyn fy arddwrn pan oeddwn i’n teimlo gorbryder. Yn y tymor hir, dwi wedi dechrau ymroi i baentio ac ysgrifennu am fy nheimladau.
Dyna un o’r pethau fyddwn ni’n ei wneud yn y grŵp yw peintio a chyfansoddi barddoniaeth ac ysgrifennu llythyron aton ni ein hunain. Dwi wedi darganfod mod i’n gallu paentio, a dwi wir yn ei fwynhau!
Dwi’n caru’r grŵp a dwi ddim yn gallu aros nes i ni gwrdd wyneb yn wyneb eto ar ôl Covid!”