Sut i gael cymorth

I gael cymorth meddygol brys, defnyddiwch wefan GIG Cymru 111 neu ffoniwch 111 os na allwch fynd ar lein.

I gael help gan feddyg teulu, ffoniwch eich meddyg teulu neu ewch i’r feddygfa, neu chwiliwch ar wefan eich meddygfa. Mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 i gael ambiwlans.

 

I gael help gan wasanaethau lleol ewch i gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl ar y wefan hon.

 

Mae Connect RCT yn wefan i’ch cefnogi i ddod o hyd i gysylltiadau, eu rhannu a’u creu drwy gyfrwng gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli. Ewch i www.connectrct.org.uk  Llwyfan cymunedol i ddod o hyd i weithgareddau a’u rhannu, gwneud cysylltiadau a chefnogi eraill.