Sarah, 50 oed, Valleys Steps

sarah age 50

Mae Sarah yn nyrs gymwysedig, ond canfu ei bod hi’n hanfodol iddi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd cynnydd mewn lefelau gorbryder ac iselder.

Teimlai Sarah fod pwysau bywyd allanol yn cynyddu yn enwedig o ran perthynas oedd yn dod i ben, a oedd wedi bod yn un gyda llawer o reolaeth drosti ac yn emosiynol dreisgar. Roedd hi’n defnyddio meddyginiaeth i’w helpu, gafodd ei gynyddu. Ond doedd ei symptomau ddim yn gwella ac roedd y sgileffeithiau hefyd yn achosi’u problemau’u hunain, wrth i Sarah fethu â chysgu am fis, bron.

“Roedd fy ffrindiau a theulu wedi dechrau gofidio amdana i, ac roedden nhw’n aml yn rhwystredig gyda fi. Roedd y ffordd y byddwn i’n ymateb yn gwneud i fi deimlo’n fwy unig ac ynysig. Ro’n i’n gwybod fod angen i mi wneud rhywbeth drosof fy hun oedd o fewn fy nghyrraedd a’m gallu fy hun.”

Ar ôl chwilio ar y we, canfu Sarah Valleys Steps, sy’n cynnig cwrs meddwlgarwch 6 wythnos o hyd fel rhan o’u gwasanaethau llesiant.

“Ro’n i eisiau dysgu sut allwn i gael mwy o reolaeth dros fy hwyliau, fy meddyliau, a sut ro’n i’n ymateb, ac yn y pen draw i ddod o hyd i ffordd o ddelio’n fwy cadarnhaol â’r heriau hyn heb ddibynnu ar feddyginiaeth yn unig, ac nid dim ond dod o hyd i ffordd o ymdopi heb feddyginiaeth os oedd hynny’n bosib.

“Dwi wedi poetsian gyda meddyginiaeth am flynyddoedd, ond mewn dull go hamddenol, gyda phrin neu ddim disgyblaeth. Ro’n i eisiau cael arweiniad ar sut i wella fy arferion a gwella fy ymrwymiad iddo fe ac i mi fy hun.”

I ddechrau, ymunodd Sarah ag un o sesiynau picio i mewn Valleys Steps oedd y tu fas i’w bwrdeistref, a chanfu fod y sesiynau o fudd enfawr. Ond doedd hi ddim yn gallu mynychu pob un oherwydd ymrwymiadau neu’n gyffredinol oherwydd rhesymau personol.

Ac eto, canfu nad oedd dim pwysau i fynychu pob sesiwn nac i esbonio pam nad oedd hi wedi mynychu, oedd o gymorth. Ailymunodd Sarah â grŵp picio i mewn arall yn nes ymlaen, grŵp oedd yn agosach at ei chartref, ac yn fwy diweddar mae hi wedi mynychu’r sesiynau ar lein a ddatblygwyd gan Valleys Steps o ganlyniad i COVID-19.

Yn ychwanegol, mae Sarah hefyd yn cael mynediad i gefnogaeth arall gan Valleys Steps fel y lawrlwythiadau sain, dolenni i wasanaethau eraill, negeseuon Facebook, sgyrsiau a thrafodaethau.

“Bob tro y bydda i’n dychwelyd i’r cwrs 6 wythnos, bydda i’n ennill mwy o ddealltwriaeth a mewnwelediad a heddwch. Fe wnaeth i fi deimlo mod i’n ymddwyn yn rhagweithiol, mod i wedi fy ngrymuso a mod i’n falch. Roedd y lawrlwythiadau sain yn amhrisiadwy hefyd. Roedd hi mor hawdd cael gafael arnyn nhw, ac ro’n i hefyd yn teimlo’n gyfforddus wrth eu defnyddio am fy mod i’n gwybod eu bod nhw’n glynu wrth egwyddorion theoretig.

“Dwi wedi’i chael hi’n haws siarad am fy iechyd meddwl a sut roedd yn fy herio bob dydd, oherwydd nawr dwi wedi teimlo addewid ac optimistiaeth ar y diwedd.

“Dwi’n werthfawrogol iawn i Valleys Steps a phawb sy’n gweithio iddyn nhw neu’n gwirfoddoli gyda nhw. Dyma wasanaeth amhrisiadwy sydd wedi codi i wynebu her pandemig yn y dull mwyaf hygyrch!”

Valleys Steps