Imogen, 19 oed, Gwasanaeth Cwnsela Pobl Ifanc Eye to Eye

Imogen story

Yn ystod y pandemig coronafeirws, dechreuodd Imogen, sy’n 19 oed, deimlo’n isel iawn ac roedd hi’n dod yn gynyddol drist am beidio â chael cyswllt â’i rhwydwaith arferol o deulu a ffrindiau.

“Ro’n i’n teimlo’n unig iawn ac roedd bywyd yn anodd dros ben, ac ro’n i’n cael trafferth deall sut allwn ni oresgyn fy nheimladau o dristwch. Es i weld fy meddyg teulu a awgrymodd y gallwn i fanteisio o gael cwnsela gyda Gwasanaeth Cwnsela Pobl Ifanc Eye to Eye”.

Derbyniodd Imogen gyngor ei meddyg teulu a chyfeiriodd ei hun at Eye to Eye ond roedd hi’n pryderu sut allen nhw ei chefnogi hi oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

“Fe ges i gyswllt rheolaidd gyda fy nghwnselydd yn ogystal â phobl eraill o Eye to Eye, ac oherwydd ei fod ar lein neu dros y ffôn, doedd dim rhaid i fi wneud hynny gartref, ac ro’n i’n gallu mynd mas a siarad os oeddwn i’n teimlo fel gwneud hynny. Ro’n i’n teimlo fod rhywun yn gwrando arna i, ac ro’n i’n teimlo mod i’n cael cefnogaeth pan oedd ei angen fwyaf arna i. Do’n i ddim yn teimlo fel pe bawb i ar ben fy hun. Roedd fy nghwnselydd yn hyfryd gyda fi ac fe wnaethon ni siarad am bopeth. Do’n i ddim yn teimlo fel pe bai hi’n barnu fi, ac fe ddysgodd hi sut allwn i ddeall fy hun yn well, fy nheimladau a fy mywyd gartref. Ro’n i’n cael gwybod am bobl a gwasanaethau eraill allai fy helpu hefyd, a dysgais wrando ar beth oedd ei angen arna i. Dwi’n dod ymlaen yn well gyda fy nheulu gan amlaf nawr hefyd.

“Mae fy nghwnselydd wedi bod yn graig ac yn rhaff bywyd. Dwi’n gwybod pryd fydd hi’n mynd i siarad gyda fi a dwi’n gwybod y bydd hi’n fy helpu i helpu fy hun a deall fy hun yn well. Dwi wedi mwynhau cwnsela ar lein, ac ro’n i’n teimlo ei bod hi’n hawdd cael apwyntiad a mynd ar lein.”

Gwasanaeth Cwnsela Eye To Eye