Oherwydd ei iselder a’i orbryder, fe wnaeth Jamie ynysu ei hun oddi wrth bobl eraill i’r fath raddau y byddai wythnosau’n mynd heibio heb iddo gael cyswllt dynol ac roedd e’n defnyddio moddion ar bresgripsiwn i drin ei boen.
Roedd Jamie wedi dechrau dioddef o orbryder pan oedd e yn ei arddegau, ond ar ôl cael diagnosis o glefyd Chron, daeth ei orbryder yn rhwystr enfawr, gan ei atal rhag gallu gweithio, cymdeithasol na gweld neb y tu allan i’w gartref.
“Ar fy mhwynt isaf, fyddwn i ddim yn codi o’r gwely. Fyddwn i ddim yn ymolchi. Ddim yn bwyta. Fyddwn i ddim yn ateb fy ffôn pan fyddai fy nheulu’n ffonio, a byddwn i’n cynnig esgusodion pan fyddai ffrindiau’n fy ngwahodd i fynd mas, felly yn y diwedd fe stopion nhw ofyn i fi. Ro’n i wedi bod yn ddi-waith am 10 mlynedd oherwydd fy ngorbryder, fy iselder a’r problemau iechyd, a doedd gen i ddim uchelgais na chynllun ar gyfer y dyfodol. Y cyfan ro’n i’n ei wneud oedd goroesi o ddydd i ddydd.”
Wedyn, un diwrnod, rhoddodd gweithiwr cefnogi camddefnyddio sylweddau Jamie daflen iddo am gwrs seicoleg 12 wythnos o hyd gydag Addysg Oedolion Cymru mewn partneriaeth â Choleg Adferiad New Horizons, a chofrestrodd e ar y cwrs.
“Ar y diwrnod cyntaf, sefais y tu fas i’r dosbarth am ryw 20 munud, yn syllu ar y drws, yn llawn ofn rhag mynd i mewn. Roedd fy ngorbryder wedi mynd drwy’r to. Ro’n i’n teimlo’n sic a bu ond y dim i fi droi ar fy sawdl a mynd o’na. Ond roedd rhywbeth y tu mewn i fi wedi clicio ac fe ngorfodais fy hun i mewn i’r dosbarth. Roedd y dosbarth cyntaf yn anhygoel. Ar unwaith, ro’n i’n teimlo’n gartrefol ac allai’r dosbarthiadau ddim dod yn ddigon sydyn. Ro’n i eisiau dysgu mwy a mwy.”
Ond doedd Jamie ddim yn teimlo’n barod i orffen ac oherwydd bod ganddo fwy o hyder ac awydd i ddysgu, cofrestrodd ar gyrsiau ychwanegol i barhau â’i daith ddysgu.
“Fe gwrddais â chynifer o bobl newydd, ac roedd fel pe bai fy ngorbryder yn toddi. Ro’n i’n mwynhau fy hun ac roedd gen i deimlad cadarnhaol parhaus y tu mewn i fi. Ro’n i’n teimlo fod gen i bwrpas mewn bywyd.
“Ro’n i’n arfer dioddef o ofn mawr o’r anwybod, ond nawr wrth fynd i’r dosbarth, dwi’n cwrdd â phobl newydd ac yn gwybod fod pawb yn mynd drwy bethau drostyn nhw’u hunain, ac yn delio â’u problemau’u hunain, a does neb yn fy marnu i. Dwi wedi cael cymaint mwy allan o ddysgu nag y gallwn fod wedi’i ddisgwyl erioed. Nid dim ond gwybodaeth am y pwnc o’r dosbarthiadau, ond sgiliau gwerthfawr, hunan-gred, gwytnwch, cyfeillgarwch a gwell iechyd meddwl.”