Ar ôl symud yn ôl i Gymru ar ôl byw yng Ngwlad Thai am sawl blwyddyn, sylweddolodd Alex ei fod yn cael trafferth gyda rhai symptomau OCD oedd yn eithaf anarferol a haniaethol, a chydnabu y gallai elwa o gael rhai therapïau siarad. Siaradodd Alex â’i feddyg teulu, wnaeth ei gyfeirio at Mind CTM.
“Ro’n i wedi dyfalu fod fy symptomau’n gysylltiedig â thueddiadau OCD, ond doedden nhw ddim fel y symptomau OCD arferol ro’n i wedi’u cael yn y gorffennol, ac ro’n i’n cael trafferth rhoi fy mys ar beth yn union oedd o’i le. Fe wnaeth yr ymarferydd wir fy helpu i gael mewnwelediad i’r cyflwr, a sut yr oedd tueddiadau OCD fel perffeithrwydd ac anoddefgarwch at ansicrwydd wrth wraidd llawer o fy symptomau.:
Teimlai Alex fod ei gwnselydd yn Mind CTM wir yn gwrando arno a gweithiodd gydag ef i osod offer a thechnegau ar waith y gall ef eu defnyddio i helpu rheoli’i symptomau.
“Dwi’n teimlo fod yr ymarferydd wedi gwneud gwaith rhagorol o wrando’n ofalus a dod i wraidd yr achosion gwaelodol. Fe weithiodd yr ymarferydd gyda fi ac mae wedi fy nghynghori i dreulio rhywfaint o amser yn ymarfer yr offer a’r technegau a gyflwynwyd i fi yn ystod ein sesiynau gyda’n gilydd, ac mae hi wedi fy nghyfeirio at rai adnoddau i helpu gyda’r broses honno.”
Mae Alex yn teimlo ei fod wedi elwa o’r therapïau siarad wnaeth wir helpu’i hunan-ymwybyddiaeth, ond mae e’n awyddus i edrych ar gael mwy o therapïau gan Mind CTM yn y dyfodol i helpu gyda’i hunan-hyder a’i hunan-barch.
“Roedd yr ymarferydd yn gwnselydd rhagorol. Roedd cwnsela CBT strwythuredig a threfnus yr ymarferydd yn tra rhagori ar unrhyw gefnogaeth dwi wedi’i gael o’r blaen, a dwi’n teimlo mod i wedi gwneud cynnydd da yn ystod fy wyth sesiwn. Fe wnes i drafod gyda’r ymarferydd y byddwn i o bosib yn elwa o gyfnod pellach o gwnsela gyda therapydd o Mind CTM, ymhellach ymlaen, efallai ymhen dau neu dri mis, ar ôl i fi gael cyfle i sadio’r gwaith a wnaed gyda’r ymarferydd.
“I gloi, hoffwn bwysleisio fod y nodau cwnsela y datblygodd yr ymarferydd a fi gyda’n gilydd wedi’u canolbwyntio ar ennill dealltwriaeth gliriach o fy nghyflwr a’r hyn oedd yn ei yrru. Golygodd y penderfyniad bwriadus i ganolbwyntio ar ddeall fy nghyflwr a fy symptomau taw dim ond amser cyfyngedig oedd gyda ni tua diwedd yr wyth sesiwn i weithio ar newid ymddygiadol. Dyma’r pris i’w dalu roedden ni wedi’i drafod, ac wedi cytuno arno ymlaen llaw. O ganlyniad, dwi wedi gwneud mwy o gynnydd mewn meysydd fel dealltwriaeth a hunan-ymwybyddiaeth, a llai mewn meysydd fel hunan-hyder a hunan-barch. Roedd hyn drwy gynllun, nid ar ddamwain.
Diolch o galon i chi a’ch cydweithwyr am eich holl gymorth.”
Mind Cwm Taf Morgannwg